GDAS Drug Support

Isod mae yna awgrymiadau defnyddiol ar gyfer lleihau'r niwed a wneir gan gyffuriau:

Cynllunio eich defnydd o gyffuriau:

  • Profwch y cyffuriau yr ydych yn mynd i'w cymryd. Mae Wedinos yn darparu gwasanaeth profi sylweddau, a gall unrhyw un yng Nghymru gyflwyno samplau. Gall GDAS gynorthwyo unigolyn sydd am gyflwyno sampl. Ymweld â gwefan
  • Ymchwiliwch i'r cyffur yr ydych ar fin ei gymryd fel eich bod yn gwybod beth fydd yr effeithiau, y dos cyfartalog, a'r hyn i'w ddisgwyl yn ystod ac ar ôl y profiad.
  • Cynlluniwch y modd y byddwch yn cyrraedd adref cyn i chi ddechrau ar eich noson.
  • Dylech osgoi cymryd cyffuriau ar eich pen eich hun. Ceisiwch sicrhau bod yna ffrind gyda chi, a dywedwch wrtho faint yr ydych wedi'i gymryd
  • Cynlluniwch eich dos ymlaen llaw a chariwch yr hyn yr ydych yn bwriadu ei gymryd gyda chi yn unig. Mae'n haws cymryd mwy nag a fwriadwyd os ydych yn ei gario gyda chi.

Wrth i chi gymryd cyffuriau:

  • Ceisiwch beidio â chymysgu cyffuriau, yn cynnwys alcohol, gan y gall hyn achosi effeithiau peryglus ac anrhagweladwy. Os na allwch osgoi alcohol, ceisiwch gyfyngu ar faint o ddiodydd yr ydych yn eu hyfed, neu dewiswch rai sy'n cynnwys llai o alcohol, ac yfwch ddŵr rhwng eich diodydd.
  • Dechreuwch trwy gymryd llai o gyffuriau ar y tro, a pheidiwch â’i gor-wneud hi. Ceisiwch aros am ddwyawr cyn cymryd rhagor o gyffuriau.
  • Sicrhewch fod eich corff wedi'i hydradu, ac yfwch sipiau bach o ddŵr.
  • Cymerwch seibiannau rheolaidd pan fyddwch yn dawnsio.
  • Os byddwch yn dechrau teimlo effeithiau negyddol, gallai newid eich amgylchedd helpu. Os yw'r effeithiau yr ydych chi'n eu profi yn rhy gryf, ceisiwch ymlacio ac yfwch sipiau bach o ddŵr/sudd.
  • Os bydd angen i chi ofyn am gymorth meddygol, byddwch yn onest ynghylch yr hyn yr ydych wedi'i gymryd, a faint.

Ar ôl i chi gymryd cyffuriau:

  • Ceisiwch gael rhai diwrnodau heb gyffuriau bob wythnos i helpu eich corff i wella.
  • Mynnwch archwiliadau iechyd rheolaidd sy'n cynnwys profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a phrofion am feirysau a gludir yn y gwaed (BBVs) e.e. HIV, Hepatitis B a Hepatitis C.

Sniffian

  • Gall rhannu offer sniffian ledaenu heintiau a feirysau a gludir yn y gwaed, e.e. HIV. Defnyddiwch eich cyfarpar eich hun pan fyddwch yn sniffian cyffuriau.
  • Dylid osgoi defnyddio arian papur i sniffian gan y gallant achosi briwiau y tu mewn i'ch trwyn, ac nid ydynt yn dafladwy chwaith. Mae gwellt papur yn ddewis da yn lle arian papur.
  • I atal y powdr rhag achosi difrod pellach ar y tu mewn i'ch trwyn, defnyddiwch ddŵr glân i rinsio eich trwyn ar ôl bod yn sniffian cyffuriau.
  • Defnyddiwch ffroen wahanol ar gyfer pob dos, a rhowch yr offeryn mor uchel â phosibl yn y ffroen.

Smygu

  • Os ydych yn smygu o ffoil, defnyddiwch ffoil glân bob tro. Gall ein cyfnewidfeydd nodwyddau ddarparu hyn.
  • Dylid osgoi dal mwg yn eich ysgyfaint gan y gall hyn niweidio'r meinwe.
  • Malwch neu torrwch y cyffur yn ddarnau bach.
  • Os ydych yn smygu cyffuriau adfywiol gall yr effeithiau fod yn ddwys ond yn fyrhoedlog, a all olygu eich bod yn dyheu am ragor. Ceisiwch aros cyhyd â phosibl rhwng pob dos, neu defnyddiwch amserydd i gadw golwg ar eich defnydd.
  • Gall rhannu pibellau ledaenu heintiau a feirysau a gludir yn y gwaed. Defnyddiwch eich cyfarpar eich hun yn unig a mynnwch gael eich profi'n rheolaidd am feirysau a gludir yn y gwaed.
  • Gellir trosglwyddo salwch a heintiau ar y croen hefyd trwy rannu cyffuriau i'w smygu, sigaréts neu bibellau.
  • Ceisiwch ddefnyddio cerdyn heb ei argraffu ar gyfer stympiau fel nad ydych yn anadlu inc cemegol.
  • Os ydych yn defnyddio pibell, gadewch iddi oeri cyn ei hailddefnyddio, a daliwch y bibell cyn belled â phosibl oddi wrth y fflam i leihau'r siawns o losgi. Cadwch eich llosgiadau'n lân ac yn sych. Os na fydd eich llosgiadau'n dechrau gwella, neu os byddant yn troi'n goch/llidus, gofynnwch am help meddygol.

Chwistrellu

  • Defnyddiwch nodwyddau a chyflenwadau glân yn unig. Mae nodwyddau glân, rhad am ddim ar gael gan gyfnewidfeydd nodwyddau neu gellir eu prynu ar-lein.
  • Defnyddiwch y nodwydd leiaf posibl y gallwch heb iddi gael ei blocio.
  • Golchwch y mannau lle'r ydych yn chwistrellu cyn ac ar ôl defnyddio nodwydd.
  • Hidlwch eich cyffuriau bob amser
  • Mae nodwyddau'n colli eu hawch ar ôl eu defnyddio unwaith. Defnyddiwch nodwydd ffres os na fyddwch yn gallu dod o hyd i wythïen y tro cyntaf.
  • Amrywiwch y mannau lle'r ydych yn chwistrellu.
  • Peidiwch byth â rhannu cyfarpar, gan gynnwys nodwyddau, hidlenni, cynwysyddion, llwyau a dŵr.
  • Gwaredwch nodwyddau mewn modd cyfrifol. Gellir eu dychwelyd i gyfnewidfa nodwyddau.
  • Gofynnwch am help meddygol os bydd y fan lle'r ydych yn chwistrellu yn mynd yn boenus, yn dyner neu'n boeth, neu os bydd yna chwydd am fwy nag ychydig ddiwrnodau.

Llyncu

  • Gellir rhoi powdr mewn capsiwl, ei lapio mewn papur sigarét neu ei gymysgu mewn diod a'i lyncu.
  • Defnyddiwch bapur sigarét glân neu gapsiwl gel i 'fomio' powdr.
  • Os caiff ei gymysgu mewn diod, gofalwch eich bod yn defnyddio dos cywir. Marciwch y cwpan/botel i sicrhau nad oes neb arall yn yfed y ddiod yn ddamweiniol, a pheidiwch byth â gadael eich diod heb neb i gadw llygad arni.
  • Malwch neu gwasgwch y powdr cyn ei ddefnyddio fel ei fod mor fân â phosibl. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws barnu maint dos ac yn cyflymu'r broses o'i amsugno i'r corff.
  • Os ydych yn cymryd tabled, defnyddiwch ddos isel. Dechreuwch trwy gymryd chwarter neu hanner tabled, ac arhoswch am ddwyawr cyn ail-ddosio. Mae rhai tabledi yn cymryd peth amser i ddadelfennu, sy'n golygu y bydd yn cymryd mwy o amser cyn i chi deimlo'r effeithiau.