GDAS banner2

Gall camdriniaeth ddomestig effeithio ar bawb yn wahanol. Os yw camdriniaeth ddomestig wedi effeithio arnoch, a hoffech gael arweiniad neu gymorth, rydym yma i'ch helpu. Gall camdriniaeth ddomestig gynnwys y canlynol:

  • Camdriniaeth gorfforol neu rywiol
  • Camdriniaeth ffisiolegol a/neu emosiynol
  • Rheolaeth drwy orfodaeth (ymddygiad bygythiol, diraddio, ynysu a rheoli gan fygwth trais corfforol neu rywiol)
  • Camdriniaeth ariannol neu economaidd
  • Camdriniaeth ddigidol neu ar-lein
  • Aflonyddu neu stelcian

Os ydych yn profi camdriniaeth ddomestig, nid ydych ar eich pen eich hun, ac mae yna gymorth ar gael bob amser.

           Ymweld â gwefan

  • The Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Fenywod Cymru, yn llinell gymorth gyfrinachol rad ac am ddim, bedair awr ar hugain y dydd. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
  • Ymweld â gwefan
  • Gall dynion sy'n profi camdriniaeth ddomestig gysylltu â Respect Men’s Advice Line ar 0808 801 0327. Mae'r llinell gymorth yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, a gallwch gysylltu'n ddi-dâl o linellau tir a ffonau symudol yn y DU.
  • Ymweld â gwefan
  • New Pathways support adults and children affected by rape, sexual abuse and sexual assault. You can contact them on 01685379310. 

         Ymweld â gwefan

  • Gall dynion sy'n dioddef camdriniaeth gysylltu hefyd â'r Cynllun Dyn yng Nghymru. Mae'n cynnig llinell gymorth gyfrinachol ddi-dâl ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ei wefan.
  • Ymweld â gwefan
  • Mae Stonewall Cymru yn darparu cyngor a chymorth yn ymwneud ag ystod o faterion i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol sy'n ddioddefwyr ac yn oroeswyr camdriniaeth ddomestig yng Nghymru
  • Ymweld â gwefan
  • Mae BAWSO yn darparu llety diogel i fenywod a phlant Du ac Ethnig Leiafrifol sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth ddomestig yng Nghymru.
  • Ymweld â gwefan
  • Mae Hourglass yn elusen sy’n ymroi'n benodol i fynd i’r afael â'r niwed, yr esgeulustod, y gamdriniaeth a'r camfanteisio sy'n effeithio ar bobl hŷn.
  • Ymweld â gwefan
  • Mae ap Bright Sky yn ap rhad ac am ddim ar gyfer ffonau symudol sy'n darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod mewn perthynas gamdriniol.
  • Ymweld â gwefan

LightbulbA oeddech yn gwybod? Os oes angen i chi ffonio 999 ar ffôn symudol ond nad ydych yn gallu siarad, pwyswch 55 pan ofynnir i chi wneud hynny, a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu. Efallai y gofynnir i chi beswch neu bwyso botymau ar eich ffôn i ateb cwestiwn.