GDAS Housing

Os ydych yn ddigartref ar hyn o bryd neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn symud o soffa i soffa neu'n aros gyda ffrindiau, mae yna help ar gael.

Gwasanaethau

  • Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru. Os bydd angen, gall hefyd herio achosion o droi pobl allan o'u cartref ar eu rhan. Gallwch gysylltu â llinell gymorth frys Shelter Cymru trwy ffonio 08000 495 495. Gellir cysylltu â'r mudiad hefyd trwy sgwrsio ar y we, yma: Shelter Cymru
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud ag ymdrin â phroblemau o ran tai. Gellir cysylltu â'r mudiad trwy ffonio 0800 702 2020. Gallwch hefyd fynd i'r wefan i ddod o hyd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf: Cyngor ar Bopeth
  • Mae’r Wallich yn darparu gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru. Ewch i'w cyfeiriadur gwasanaethau i ddod o hyd i brosiect digartrefedd yn eich ardal chi.

  • Mae Pobl yn darparu llety a chymorth i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Y Cyngor Lleol

Un o'r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud o ran materion yn ymwneud â thai yw siarad â chyngor lleol. Gall wneud asesiad a chynllunio'r camau gorau i chi eu cymryd.

Gall eich cyngor lleol eich helpu i ddatrys problemau'n ymwneud â'ch rhent, trefnu cynllun talu os oes gennych ôl-ddyledion, dod o hyd i lety brys os ydych yn ddigartref, ac os nad ydych yn gallu byw yn eich cartref am fod angen cwblhau atgyweiriadau, efallai y gall y cyngor eich cynorthwyo trwy roi grant i wneud y gwaith atgyweirio.

Gweler isod fanylion cyswllt eich cyngor lleol yng Ngwent.

Cyngor Dinas Casnewydd

Ffôn: 01633 656656

Achosion brys y tu allan i oriau: 01633 656656

Cyfeiriad e-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan: Newport.gov

Cyngor Sir Fynwy

Ffôn: 01633644644

Achosion brys y tu allan i oriau: 01633644644

Cyfeiriad e-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan: Monmouthshire.gov

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Ffôn: 01496354600

Achosion brys y tu allan i oriau: 01495311556

Cyfeiriad e-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan: Blaenau Gwent Homes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ffôn: 01443 873552

Cyfeiriad e-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan: Caerphilly.gov

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ffôn:01495742303

Achosion brys y tu allan i oriau: 01495762200

Cyfeiriad e-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan: Torfaen.gov