GDAS Mental Health

Os ydych wedi eich niweidio eich hun yn ddifrifol – er enghraifft, trwy gymryd gorddos o gyffuriau – neu’n teimlo y gallech fod ar fin eich niweidio eich hun, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith. Os na allwch wneud hyn eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu.

Os oes arnoch angen help ar frys o ran eich iechyd meddwl, ond nad yw'n argyfwng, ffoniwch 111 neu Galw Iechyd Cymru (0845 46 47).

Ni waeth beth yr ydych yn mynd trwyddo, mae yna bobl y gallwch siarad â nhw unrhyw bryd. Os oes arnoch angen siarad â rhywun ar unwaith, gallwch ffonio'r rhifau canlynol sy'n gyfrinachol ac yn ddi-dâl.

 

Os nad ydych am siarad â rhywun dros y ffôn, mae yna linellau negeseuon testun yn agored bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o’r wythnos.

 

Os nad ydych am siarad â rhywun, mae yna wefannau ac apiau hunangymorth defnyddiol ar gael ar gyfer Llesiant Meddyliol.

  • Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i'ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles.

           Ymweld â gwefan

  • Mae Silver Cloud yn darparu rhaglenni iechyd meddwl a lles digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

           Ymweld â gwefan

  • Mae gwefan SANE yn darparu cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim trwy e-bost, neges destun, a fforymau ar-lein
  • Ymweld â gwefan
  • Mae Headspace yn darparu myfyrdodau dan arweiniad ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â synau i'ch helpu i gysgu a cherddoriaeth i'ch helpu i ganolbwyntio, a hynny trwy danysgrifiad misol.
  • Ymweld â gwefan
  • Mae Happify yn eich helpu i feithrin sgiliau ar gyfer hapusrwydd parhaol trwy ddefnyddio therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ac ymwybyddiaeth ofalgar, a hynny trwy danysgrifiad misol.
  • Ymweld â gwefan