GDAS Useful Websites

 

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

logo Sexually transmitted infection

Mae iechyd rhywiol yn fwy nag atal cenhedlu ac amddiffyn eich hun rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol – mae'n ymwneud â gwneud dewisiadau cadarnhaol i chi a'ch partner. Mae gwasanaethau GDAS yn gallu cynnig darpariaeth Ymyriadau Clinigol, megis: sgrinio iechyd rhywiol, dulliau atal cenhedlu, sgrinio ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed (BBV) a HIV gan gynnwys brechu

Os ydych yn meddwl bod gennych STI, peidiwch â chynhyrfu. Ewch i'ch meddygfa neu siaradwch ag un o aelodau o staff GDAS neu eich clinig iechyd rhywiol lleol a chael prawf, a thriniaeth os oes angen.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod pethau ymhellach, mae digon o gymorth a help ar gael trwy dîm GDAS. Dyma rai o'r gwasanaethau sydd ar gael:

  • Sgrinio chlamydia (trwy apwyntiad neu mae yna sesiynau galw heibio ar gael) a phrofion am heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol

  • Dulliau atal cenhedlu, gan gynnwys condomau, mewnblaniadau a phigiadau

  • Profion beichiogrwydd

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y mathau o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a'u symptomau, trwy fynd i'r ddolen isod neu lawrlwytho ein taflen.

Ewch i Dewisiadau'r GIG

 

Atal cenhedlu

logo Contraception

P'un a ydych yn sengl neu mewn perthynas newydd, mae'r neges yn glir: os ydych yn cael rhyw, y ffordd orau o leihau'r tebygolrwydd o gael haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yw defnyddio dull atal cenhedlu bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu, ewch i'r ddolen isod.

Ewch i Dewisiadau'r GIG

 

Cymru Chwareus

isometric postal parcels mails 33099 720

Mae Cymru Chwareus yn darparu gwybodaeth iechyd rhywiol o ran cael mynediad at gyngor a phrofion yn eich ardal. Gallwch hefyd archebu pecynnau profi gartref am ddim ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

THT TWC lock up RIGHT

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn cefnogi pobl y mae HIV ac iechyd rhywiol gwael yn effeithio arnynt.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Twbercwlosis (TB)

Tuberculosis

Mae Twbercwlosis (TB) yn glefyd a achosir gan bacillus tiwbercwl Mycobacterium tuberculosis. Mae TB fel arfer yn effeithio ar yr ysgyfaint (ysgyfeiniol), ond gall effeithio ar rannau eraill o'r corff (allysgyfeiniol), megis y nodau lymff, yr esgyrn ac (yn anaml) yr ymennydd.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Heintiau streptococol

Streptococcal infections

Mae’r rhain yn unrhyw fath o haint a achosir gan y grŵp bacteria streptococws ("strep").

Mae yna lawer o fathau gwahanol o facteria Streptococci, ac mae heintiau'n amrywio o ran difrifoldeb o fân heintiau gwddf i heintiau yn y gwaed neu ar yr organau sy'n bygwth bywyd. Gellir trin y rhan fwyaf o heintiau streptococol â gwrthfiotigau.

I gael rhagor o wybodaeth gweler y ddolen:

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Problemau Cwsg

man sleeping

Rydym i gyd yn cael nosweithiau pan fyddwn yn ei chael yn anodd cwympo i gysgu neu'n cael ein hunain yn deffro yn y nos. Mae'r modd yr ydym yn cysgu a faint o gwsg y mae ei angen arnom yn wahanol i bob un ohonom ac yn newid wrth i ni fynd yn hŷn. Mae problemau cysgu yn gyffredin, a dylai'r awgrymiadau ar y dudalen hon helpu.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Gwasanaethau Deintyddol Brys

dental care concept illustration 52683 65383

Gwybodaeth am wasanaethau deintyddol yng Nghymru. Mae’n cynnwys dolenni i gyngor ar gael mynediad at wasanaethau deintyddol a manylion cyswllt gwasanaethau deintyddol a llinellau cymorth, gan gynnwys cysylltiadau brys y tu allan i oriau, ar gyfer gwasanaethau ledled Cymru. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i sefydliadau deintyddol cenedlaethol y DU.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

Breaking Free Ar-lein

Breaking Free from Substance Use

Torri'n Rhydd o Ddefnyddio Sylweddau

Rhaglen cymorth adferiad seiliedig ar dystiolaeth

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
 
 

Moving On In My Recovery

HG2GD_logo.png.webp 

 

Mae Moving On In My Recovery yn ap rhad ac am ddim i gefnogi eich taith tuag at adferiad o gaethiwed i sylweddau. Mae’r ap Moving On In My Recovery yn tynnu ar brofiad bywyd pobl sy’n gwella o ddibyniaeth, ac mae hefyd wedi’i ategu gan ddamcaniaeth seicolegol ar ffurf Therapi Derbyn ac Ymrwymiad.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth

 

DAN 24/7

 

Llinell ffôn gymorth ddwyieithog rad ac am ddim yw DAN 24/7, sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael rhagor o wybodaeth a/neu help yn ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol. Ffoniwch Dan 24/7 on 0808 808 2234 neu tecstiwch 81066. 

Bydd y llinell gymorth yn cynorthwyo unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr, a gweithwyr cymorth ym maes cyffuriau ac alcohol i gael mynediad at wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.

Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth