Cymorth Brys
Os ydych yn profi argyfwng ar hyn o bryd neu'n teimlo nad ydych yn gallu cadw eich hun yn ddiogel, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys.
Os oes arnoch angen cymorth brys ond nad oes angen i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, mae yna opsiynau eraill ar gael:
- Os oes arnoch angen cymorth meddygol brys ond nad yw’n fater sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 111
- Cysylltwch â'ch meddygfa i gael apwyntiad brys
- Ffoniwch y Samariaid ar 116 123 yn rhad ac am ddim, bedair awr ar hugain y dydd, (neu ffoniwch llinell Gymraeg y Samariaid: 0808 164 0123 rhwng 7pm ac 11pm)
Argyfyngau nad ydynt yn peryglu bywyd
Os nad ydych yn profi argyfwng sy'n peryglu bywyd, neu os nad oes arnoch angen sylw meddygol ar unwaith, mae yna opsiynau eraill sydd ar gael i chi neu'r unigolyn yr ydych yn ei gwmni:
- Siarad â'ch fferyllydd lleol
- Cysylltu â'ch meddyg teulu
- Mynd i ganolfan Galw Heibio y GIG neu eich uned Mân Anafiadau leol
- Hunanofal yn y cartref