Archebu Pecyn Naloxone
Mae naloxone yn feddyginiaeth achub bywyd a all wrthdroi effeithiau gorddos o opioid dros dro, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â heroin, methadon, morffin, buprenorffin a codein. Gall weithio o fewn pum munud i gael ei roi, a gall bara rhwng 20 a 40 munud. Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n profi gorddos yn cael cymorth meddygol, felly bydd angen i chi ffonio 999 a gofyn am ambiwlans ar unwaith.
I archebu pecyn naloxone, llenwch y ffurflen ar yr ochr chwith, a bydd un o'n staff yn cysylltu â chi i drefnu i'ch pecyn naloxone gael ei ddosbarthu.
Os nad ydych wedi dilyn hyfforddiant naloxone o'r blaen, neu os nad ydych wedi gwneud hynny ers amser hir, rhowch wybod i ni ar y ffurflen a gallwn drefnu i chi gael hyfforddiant naloxone.