
Mae Academi Cymheiriad GDAS yn darparu hyfforddiant a chymorth i bobl sydd â phrofiad byw a phrofiad bywyd o ddefnyddio sylweddau, i'w galluogi i wirfoddoli mewn ystod eang o rolau yn y sector. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Rhedeg cyfnewidfa nodwyddau
- Darparu gwasanaethau gan gymheiriaid ar gyfer lleihau niwed
- Gweithio mewn derbynfeydd
- Cymryd atgyfeiriadau cychwynnol
- Cynorthwyo cymheiriaid eraill i gael mynediad at wasanaethau
- Gwasanaethau eirioli
- Rheoli mannau galw heibio.
Mae cymheiriaid GDAS hefyd yn gweithredu yn rôl ymgynghorwyr ar gyfer Bwrdd Cynllunio Ardal Gwent, ac yn ein cynorthwyo i adolygu gwasanaethau, polisïau a strategaethau, ar ffurf partneriaid cydradd. I gael rhagor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn ymuno â'r academi cymheiriaid, defnyddiwch y ffurflen ar yr ochr chwith, a bydd un o aelodau ein tîm yn cysylltu â chi.