Ymyriadau ar-lein:

  • Breaking Free Online: Rhaglen driniaeth ac adferiad ar-lein i unrhyw un sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol, sy'n rhad ac am ddim i unrhyw un yng NGWENT. Gellir cyrchu Breaking Free bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r wythnos, ac ar unrhyw ddyfais. I greu cyfrif, dilynwch y ddolen a defnyddiwch y cod mynediad gwent11
  • Mae gan Gwelcol - y Coleg Llesiant, gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae rhai’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan y Coleg Llesiant a rhai gan ein cyd-weithwyr yn y 3ydd sector.

Haen 2 (anstrwythuredig):

  • Gwasanaethau lleihau niwed: Naloxone, cyfnewid nodwyddau, cyngor ar chwistrellu mwy diogel, gwasanaethau iechyd rhywiol, profi am feirysau a gludir yn y gwaed a brechu rhagddynt
  • Triniaeth Fer - hyd at saith sesiwn gymorth ar gyfer y rhai naill ai nad ydynt yn ceisio neu nad oes arnynt angen cymorth strwythuredig (mewn grŵp neu un-i-un rhithwir)

Haen 3 (strwythuredig):

  • Gofal a Arweinir gan Iechyd - cymorth sy'n canolbwyntio ar iechyd i'r rhai 50 oed a hŷn nad ydynt yn ceisio ymyriadau seicogymdeithasol
  • Ymyriadau Seicogymdeithasol - cymorth un-i-un strwythuredig yn canolbwyntio ar ffactorau seicolegol neu gymdeithasol sy'n ymwneud â defnyddio sylweddau

Ceir mynediad at y canlynol yn Haen 3:

  • Amnewidion opiadau ar bresgripsiwn
  • Dadwenwyno yn achos alcohol gan gynnwys dadwenwyno gartref
  • Presgripsiynau i Atal Ailddefnyddio (Antabuse/Naltrexone/Campral)
  • Profi am feirysau a gludir yn y gwaed (BBV)/HIV a brechu rhagddynt
  • Hybu iechyd gan gynnwys cyngor ar iechyd rhywiol ac atal cenhedlu

Ôl-ofal:

  • Grŵp cyffyrddiad ysgafn a chymorth un-i-un i'r rhai sydd wedi cyflawni eu nodau o ran sylweddau, ond y mae arnynt eisiau cymorth dilynol am gyfnod

Mae gennym dîm o weithwyr arbenigol sy'n darparu'r gwasanaethau uchod: Ymarferwyr Triniaeth Fer, Ymarferwyr Triniaeth, Pobl Ifanc a Phobl Ifanc sy'n dod yn Oedolion, 50 oed a hŷn, Allgymorth, Ymarferwyr dan Arweiniad Seicoleg, Ymarferwyr Uwch ac Ymarferwyr Ôl-ofal

Gall Tîm Clinigol GDAS gynnig yr ymyriadau canlynol:

  • Triniaeth Amnewidion Opiadau (Methadon/Buprenorphine/Espranor/Suboxone/Buvidal)
  • Dadwenwyno yn achos alcohol (yn y cartref/gymuned – dos penodedig/wedi'i ysgogi gan symptomau)
  • Blaengynllunio triniaeth ar gyfer dadwenwyno ac adsefydlu Cleifion Mewnol
  • Meddyginiaeth i Atal Ailddechrau (Disulfiram/Acamprosate/Naltrexone)
  • Pigiadau Pabrinex (Fitamin B12 yn ystod y driniaeth)

Profi am feirysau a gludir yn y gwaed (BBV) a'u trin:

  1. Profi am feirysau a gludir yn y gwaed a chynnig cymorth cwnsela cyn ac ar ôl hynny
  2. Brechiadau rhag Hep B
  3. Triniaeth ar gyfer Hep C yn fewnol/yn y gymuned
  4. Defnyddio sganiwr ffibro i ganfod clefyd yr afu ac atgyfeirio i'r adran Hepatoleg
  5. Cymorth iechyd meddwl arbenigol wrth gael triniaeth ar gyfer Hep C
  • Triniaethau Iechyd Rhywiol(popeth ar y safle):
  1. Profion Iechyd Rhywiol
  2. Triniaeth ar gyfer clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
  3. Cwnsela a chymorth iechyd rhywiol arbenigol
  4. Dulliau atal cenhedlu a chynllunio teulu (Depo-Provera/mewnblaniadau/condomau/y bilsen)
  5. Profion ceg y groth (ar y safle)
  • Profi am dwbercwlosis a'i drin- (mae yna glinigau sgrinio ar y safle a bydd atgyfeiriadau yn cael eu gwneud gan y nyrs TB)
  • Cymorth gan nyrs iechyd meddwl arbenigol (gan gynnwys atgyfeirio at seicolegwyr a thimau iechyd meddwl gofal sylfaenol a chymunedol)
  • Adolygiadau o feddyginiaethau gan feddygon teulu
  • Sgrinio Iechyd (pwysedd gwaed, cyflymder y galon, pwysau, siwgr yn y gwaed, yr ysgyfaint, gofal am glwyfau, byw'n iach, gofal deintyddol)
  • Pecynnau Urddas- (nwyddau mislif, dillad isaf glân, geliau cawod a siampŵ)
  • Pecynnau Naloxone