GDAS Alcohol

Mae alcohol yn iselydd sy'n effeithio ar y brif system nerfol sy'n golygu ei fod yn arafu cyflymder eich calon a'ch anadlu. Mae pobl sy'n defnyddio alcohol yn aml yn teimlo'n fwy ymlaciedig, allblyg a siaradus, ac yn profi gwelliant o ran hwyliau a hyder. Mae effeithiau eraill yn cynnwys llewyg, teimlo'n gysglyd, yn ddryslyd ac yn gyfoglyd. Gall hefyd leihau eich swildod ac effeithio ar eich gallu i ymddwyn yn synhwyrol.

Os caiff ei ddefnyddio'n rheolaidd a/neu'n ormodol, gall yfed alcohol arwain at ddibyniaeth.

Gall alcohol effeithio ar lefelau dopamin a serotonin (cemegion yn yr ymennydd sy'n ymwneud â hwyliau, archwaeth a chwsg) a gall wneud i chi deimlo'n orbryderus wrth i'r effeithiau ddiflannu. Gall hyn bara am oriau neu ddyddiau ar ôl bod yn yfed. Gall hefyd effeithio ar batrwm ac ansawdd eich cwsg gan wneud i chi deimlo'n ddiorffwys, ac effeithio ar eich iechyd meddwl mewn modd negyddol.

Mae defnydd aml o alcohol yn arwain at effeithiau hirdymor, gan gynnwys problemau yn ymwneud â'r cof neu ddementia, niwed i’r perfedd, clefyd y galon, niwed i’r afu a chanser.

Isod mae yna awgrymiadau defnyddiol ar gyfer lleihau'r niwed a wneir gan alcohol:

  • Os yw rhywun yn ddibynnol ar alcohol ni ddylai stopio yfed yn sydyn gan y gall roi'r gorau i alcohol ar unwaith fod yn angheuol. Ceisiwch leihau faint a yfir yn raddol.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o arian ac opsiynau i gyrraedd adref yn ddiogel.
  • Bwytewch bryd o fwyd ac yfwch ddigon o ddŵr cyn yfed alcohol. Ceisiwch yfed dŵr rhwng diodydd alcoholaidd i osgoi dadhydradu. Gall hyn hefyd leihau'r effeithiau negyddol drannoeth.
  • Dylid osgoi cymysgu alcohol â meddyginiaethau a chyffuriau gan y gall hyn achosi effeithiau peryglus. Cymerwch amser i ymchwilio i'ch meddyginiaethau neu gyflyrau iechyd.
  • Defnyddiwch gwpan mesur neu fesurydd gwirodydd i sicrhau dos cywir o alcohol.
  • Gall alcohol achosi cyfog a chwydu. Dylech gysgu ar eich ochr i osgoi tagu ar chŵyd yn eich cwsg.
  • Meddyliwch am ryw diogel a chydsyniad.
  • Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn sobr ac wedi dadflino'n llwyr cyn gyrru.
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans os gwelwch arwyddion gorddos: dryswch, anymwybyddiaeth, cyfog a chwydu difrifol, ffitiau, anhawster anadlu, arlliw glas/llwyd ar y pengliniau, y dwylo a'r gwefusau, curiad y galon yn araf neu'n anghyson, croen gwelw, oer a llaith.

Defnyddiwch y gyfrifiannell unedau alcohol a chalorïau isod i ddarganfod faint o unedau sydd mewn diodydd penodol, neu i wirio faint yr ydych yn ei yfed.

 

Let Us Get In Touch

If you would like your results to be emailed to you, with information on how to get further information about our services, please provide your details below.

Please check the box below if you would like one of the team to contact you via one of the above contact details.

X
Yes, please get in touch
E-Mail Sent!
Send Details

Alcohol Units & Calories Calculator

Pint of lager
Can of super strength lager or ale
Bottle of super strength lager or ale
Shot of whisky
Alcopop
Pint of strong lager or ale
Large glass of wine
Small glass of wine
Standard glass of wine

That Equals:

0.0units
0cals
How many days a week would you drink this quantity?

Current status:

You seriously need a drink!
 
Calculate Your Results
 

Your Results (based on a 1 day a week intake)

0.0units
0cals
Exercise required to burn off calories
0 mins