GDAS Peer Academy

Invalid Input

Invalid Input

Invalid Input

Mae Academi Cymheiriad GDAS yn darparu hyfforddiant a chymorth i bobl sydd â phrofiad byw a phrofiad bywyd o ddefnyddio sylweddau, i'w galluogi i wirfoddoli mewn ystod eang o rolau yn y sector. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Rhedeg cyfnewidfa nodwyddau
  • Darparu gwasanaethau gan gymheiriaid ar gyfer lleihau niwed
  • Gweithio mewn derbynfeydd
  • Cymryd atgyfeiriadau cychwynnol
  • Cynorthwyo cymheiriaid eraill i gael mynediad at wasanaethau
  • Gwasanaethau eirioli
  • Rheoli mannau galw heibio.

Mae cymheiriaid GDAS hefyd yn gweithredu yn rôl ymgynghorwyr ar gyfer Bwrdd Cynllunio Ardal Gwent, ac yn ein cynorthwyo i adolygu gwasanaethau, polisïau a strategaethau, ar ffurf partneriaid cydradd. I gael rhagor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn ymuno â'r academi cymheiriaid, defnyddiwch y ffurflen ar yr ochr chwith, a bydd un o aelodau ein tîm yn cysylltu â chi.